Y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mercher 17 Ionawr 2024

Rhwng 12.00 a 13.30 yn ystafelloedd cynadledda C a D yn Nhŷ Hywel a thrwy Microsoft Teams

 

Yn bresennol ac ymddiheuriadau: Gweler y rhestrau atodedig

 

Croeso a chyflwyniadau: Croesawodd Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd y grŵp) y cyfranogwyr i’r cyfarfod.  Eglurodd y Cadeirydd fod nifer o bobl nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod wedi gwneud cais bod y cyfarfod yn cael ei recordio, a bod y cynnwys fideo parthed y cyflwyniadau yn cael ei rannu.  Cytunwyd ar y cynnig hwn yn ystod y cyfarfod.

 

Diweddariad  gan y Cadeirydd

 

Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad ar y datblygiadau a ganlyn:

Y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol – roedd y swyddogion wedi cyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn yr hydref, ac wedi ei argyhoeddi o’r angen i gryfhau’r Cynllun Cyflawni Teithio Llesol, yn enwedig o ran blaenoriaethu cynlluniau a fydd yn hyrwyddo newid moddol.  Disgwylir y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.

 

Dyletswydd i Hyrwyddo Teithio Llesol – elfen bwysig arall o adolygiad y Grŵp o’r Ddeddf Teithio Llesol oedd y galwadau am gryfhau dyletswydd y Ddeddf Teithio Llesol i hyrwyddo teithio llesol.  Roedd y Cadeirydd wedi cynnig gwelliant llwyddiannus i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), at ddibenion ychwanegu cymal newydd at y Ddeddf Teithio Llesol a fyddai’n darparu dyletswydd gyffredinol effeithiol i hyrwyddo teithio llesol, a hynny wedi'i hategu gan ganllawiau statudol.  Yn gychwynnol, byddai’r ddyletswydd yn cael ei gosod ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond roedd darpariaeth i’w hymestyn i gyrff cyhoeddus eraill, ac ymrwymiad gan Weinidogion i sicrhau bod hyn yn digwydd.  Roedd ymrwymiad hefyd i lunio'r canllawiau a rhoi'r darpariaethau newydd ar waith ymhen deuddeg mis.  Roedd y gwaith ymgysylltu cadarnhaol a wnaed â Llywodraeth Cymru wrth drafod y gwelliant dan sylw wedi’i hargyhoeddi o’r angen am adolygiad ehangach o’r Ddeddf Teithio Llesol, a chafwyd addewid y byddai adolygiad yn cael ei gynnal gyda’r bwriad o ddiwygio’r ddeddfwriaeth yn ystod y pum mlynedd nesaf.

 

Teithio Llesol yn y System Gynllunio – Yn ystod ein cyfarfod diwethaf, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ofyn inni edrych ar pam nad oedd canllawiau datblygu sy’n hyrwyddo teithio llesol yng Nghymru yn arwain at ganlyniadau dymunol.  Sefydlwyd gweithgor bach i drafod y materion hyn.  Mae’r grŵp wedi cyfarfod ddwywaith, ac wedi llunio argymhellion cychwynnol.  Prif ganfyddiad y grŵp yw’r ffaith nad yw llawer o’r canllawiau yn hyrwyddo teithio llesol.  Mae cyfran helaeth o’r canllawiau sy’n parhau i gael eu defnyddio yn dyddio i amser cyn y Ddeddf Teithio Llesol ac yn ffafrio datblygiadau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio ceir.  Yn ogystal, nododd y grŵp fod bwlch sgiliau difrifol o ran y broses o gymhwyso'r canllawiau.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal cyfarfod arbennig i drafod y mater ymhellach, ac y dylid cynnwys cynrychiolwyr o'r prif gyrff yn y sector.  Cytunwyd ar y cynnig hwn yn ystod y cyfarfod.

 

Safonau cyffredin ar gyfer datblygiadau newydd – ar ôl sicrhau fersiwn newydd o’r safonau, sydd bellach yn gydnaws â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, mae’r grŵp yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth ynghylch y fersiwn newydd, yn enwedig ymhlith awdurdodau lleol.

 

Beiciau a bysiau – Cynhaliwyd cyfarfod adeiladol â Phrif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, yn bennaf er mwyn trafod beiciau ar fysiau a ddefnyddir yn lle trenau.  Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y grŵp i ehangu ei gwmpas ac archwilio’r holl faterion sy’n ymwneud ag integreiddio mewn perthynas â bysiau a beiciau, ac i gynnwys undebau llafur fel cynrychiolwyr y gyrwyr bysiau a fyddai'n gorfod sicrhau bod unrhyw system newydd yn gweithio.  Y bwriad yw cynnull grŵp bach o randdeiliaid, a fydd yn paratoi cynigion i'r grŵp trawsbleidiol eu trafod.

 

Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Diogelwch Ffyrdd – Cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r Grŵp ymateb drwy gymeradwyo’r ‘Argymhellion ar gyfer strategaeth newydd’ yn yr ‘Adroddiad ar Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru 2013 i 2020’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a thrwy alw am i’r strategaeth newydd fod yn seiliedig ar yr argymhellion hynny.  Cytunwyd ar y cynnig hwn yn ystod y cyfarfod.

 

Nodi 10 mlynedd ers pasio’r Ddeddf Teithio Llesol – diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu'n rhan o'r digwyddiad llwyddiannus iawn a drefnwyd gan y grŵp.

 

Trafodaeth Banel – Ymgynghoriadau effeithiol ar gyfer prosiectau teithio llesol.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem hon, gan egluro ei bod wedi codi yn sgil cwestiwn a ofynnwyd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp, sef: 'Sut ydych chi'n cynnal ymgynghoriadau effeithiol ar gynigion teithio llesol manwl mewn hinsawdd wleidyddol sy'n annog gwrthwynebiad i unrhyw gynnig sy'n cael ei ystyried fel mesur sy’n cyfyngu ar y defnydd o geir?’  Bu cryn ddiddordeb yn y pwnc, yn enwedig yn sgil y cynnwrf gwleidyddol a welwyd ynghylch y cynigion ULEZ yn Llundain a’r terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru.  Ymddengys, felly, ei bod yn briodol i’r grŵp neilltuo mwy o amser i'r pwnc a chlywed safbwyntiau arbenigwyr yn y maes.  Cyflwynodd y Cadeirydd aelodau’r panel, a oedd yn cynnwys Shayoni Lynn o Lynn Global, Patrick Williams o Sustrans Cymru, a Liz Williams o'r RNIB.

 

Amlinellodd Shayoni genhadaeth a gweithgarwch Lynn Global, gan gynnwys y Gell Gamwybodaeth.  Pwysleisiodd bwysigrwydd y defnydd o wyddor ymddygiadol, a’r ffaith bod y sefydliad yn defnyddio ymchwil sylfaenol ac yn gwreiddio’r broses werthuso ym mhopeth y mae’n ei wneud.  Mynegodd y farn bod gan y cwmni gyfrifoldeb i amddiffyn pobl rhag camwybodaeth – term y gwnaeth ei ddiffinio fel 'rhannu gwybodaeth ffug heb fwriad'. Mae rhannu twyllwybodaeth yn weithred fwriadol.  Twyllwybodaeth a chamwybodaeth yw cynhyrchion diwydiant trefnus sy’n gweithredu ar raddfa fawr, yn aml yn seiliedig ar wybodaeth dreiddgar ynghylch ymddygiad dynol.  Mae’n bwysig rhagweld beth fyddai effaith wirioneddol twyllwybodaeth / camwybodaeth ar ymddygiadau go iawn y tu allan i amgylchedd artiffisial y cyfryngau cymdeithasol.  Ei chyngor hi oedd y dylai pobl ddisgwyl twyllwybodaeth. Dywedodd mai mater o ‘pryd’, nid ‘os’ ydyw, ac y dylid cynllunio ar ei gyfer.  Dylid llenwi bylchau gwybodaeth â gwybodaeth gywir.  Mae gan ddylanwadwyr a’r rhai sy’n hyrwyddo ymgyrchoedd lleol rôl allweddol yn eu cymunedau.  Ei chyngor oedd i bobl oedi cyn ymgysylltu â thwyllwybodaeth / camwybodaeth, gan nodi y dylent osgoi rhannu gwybodaeth ffug.  Mae sicrhau data cywir yn hanfodol.  Soniodd am yr angen i oroesi’r storm, sy’n arbennig o bwysig mewn cyd-destun trafnidiaeth, lle mae’r gwrthwynebiad tuag at fesur yn aml yn lleihau dros amser.

 

Soniodd Patrick am ei brofiad eang o ymgysylltu â phobl – yn enwedig plant – ar ddatblygiadau penodol.  Mae’n bwysig peidio â diystyru gallu plant i ddeall ac ymgysylltu â materion cymhleth.  Mae plant hefyd yn ffordd o gyrraedd cynulleidfaoedd eraill.  Mae ymddygiad pobl wedi’i wreiddio’n ddwfn, ac mae ei newid yn gofyn am feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gwestiynu'r sefyllfa sydd ohoni.  Er mwyn pwysleisio maint yr her, cyfeiriodd at enghraifft o riant a oedd wedi awgrymu mabwysiadu trefniant gyrru trwodd (drive-thru), yn debyg i’r hyn a ddefnyddir gan McDonald's, i ganiatáu rhieni i ollwng eu plant yn yr ysgol.  Yn aml, mae’n rhaid gwneud dewisiadau anodd, ond mae pobl yn deall hyn ac yn gwybod efallai nad oes lle i ddarparu ar gyfer yr holl ddymuniadau sy’n cystadlu.  Mae’n bwysig bod yn glir ynghylch pwrpas prosiectau a dangos eu heffaith.  Dylid cadw mewn cysylltiad drwy gydol y prosiect, a dylid deall bod y broses ymgysylltu yn un flêr.

 

Pwysleisiodd Liz y ffaith bod yr RNIB yn cefnogi teithio llesol. Mae pobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall yn debygol iawn o gerdded i’r mannau lle maent yn cael gwasanaethau, gan nad ydynt, ar y cyfan, yn gallu gyrru.  Fodd bynnag, maent yn aml yn wynebu rhwystrau wrth geisio defnyddio ein strydoedd.  Mae’n hanfodol bod eu hanghenion yn cael ystyriaeth briodol yng nghamau cychwynnol y broses o ddylunio seilwaith teithio llesol.  Tynnodd sylw at y problemau a gaiff eu hachosi gan blatfformau mewn safleoedd bysiau sydd wedi’u dylunio’n wael, a'r angen am lwybrau i gerddwyr yn unig.  Dylid annog cydgynhyrchu, yn ogystal ag ymgysylltu parhaus drwy gydol y prosiect.  Mae’n bwysig sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn hygyrch, a bod ffontiau mwy yn cael eu defnyddio, o bosibl.  Mae gwybodaeth am sut i wella hygyrchedd y wybodaeth a ddarperir ar gael yn hwylus.  Anogodd y broses o weithio gyda sefydliadau lleol sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall, fel RNIB, Sight Life a Vision Support (gogledd Cymru).  Byddai sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn fformatau gwahanol, fel braille neu ar ffurf sain, yn ddymunol.  Nid yw ffeiliau PDF a PowerPoint bob amser yn gydnaws â rhaglenni darllen sgrin; dylai fod gan unrhyw ddelweddau a ddefnyddir ar-lein ddisgrifiad 'alt text'.  Nid yw mapiau 2D yn effeithiol, ond mae mapiau cyffyrddol yn ddefnyddiol.  Mae arferion safonol cyfarfodydd yn bwysig, yn enwedig cyflwyniadau. Gan fod blychau sgwrsio yn ymyrryd â rhaglenni darllen sgrin, mae darparu crynodeb o'r sgwrs yn ddefnyddiol.  Mae sicrhau bod lleoliad yn agos at lwybr bws yn ffactor allweddol o ran sicrhau ei hygyrchedd.  Mae RNIB yn hapus i ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ynghylch yr holl faterion hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r panel am eu cyfraniadau, a gwahoddodd y rhai eraill a oedd yn bresennol i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau.  Gwnaed y pwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth ddilynol.  Mae’n bwysig teilwra negeseuon i gyd-fynd â safbwyntiau gwrthwynebwyr posibl, cyn belled ag y bo modd.  Mae ymgysylltu’n gynnar yn y broses yn hynod bwysig. Fodd bynnag, gallai fod yn anodd perswadio awdurdodau lleol i wneud hyn gan eu bod yn ofni addo gormod.  Mae tueddiad i geisio gosod beicwyr, cerddwyr a defnyddwyr bysiau yn erbyn ei gilydd, fel pobl sy’n cystadlu am yr un gofod, ac mae angen osgoi naratifau cynhennus.  Mae erthyglau am feicio a beicwyr yn aml yn cael eu defnyddio gan y cyfryngau fel abwyd i ddenu pobl i glicio, ac mae’r sefyllfa hon yn gwaethygu wrth i’r diwydiant grebachu ac wrth i’r pwysau ar newyddiadurwyr gynyddu.  Gallai’r cam o ddatblygu gwrth-naratifau i wrthbwyso’r negeseuon negyddol fod yn effeithiol.  Yn sgil ymdrechion i ddifrïo gwleidyddion ac arbenigwyr, pwy yw’r bobl y gellid eu hystyried yn 'gyfryngwyr y gellir ymddiried ynddynt'?  Gallai’r broses o fapio a blaenoriaethu rhanddeiliaid helpu’r broses o’u nodi ar lefel leol. Mae cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio yn effeithiol wrth feithrin ymddiriedaeth.  Mae teilwra negeseuon a thechnegau er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â nodweddion cymunedau penodol yn hanfodol. Mae angen cyrraedd pwynt lle’r ydym yn gwerthfawrogi seilwaith teithio llesol gymaint ag yr ydym yn gwerthfawrogi ein ceir. 

 

Cofnodion y cyfarfod blaenorol: Cytunwyd eu bod yn gofnod cywir o’r cyfarfod.

 

Unrhyw fater arall: Dim.

Arfer da o ran darparu teithio llesol: Active Wheels Grŵp beicio cymdeithasol cynhwysol sydd wedi’i leoli ym Merthyr ac sy’n ceisio cefnogi pobl o bob gallu.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd Phil Lewis, sef Cadeirydd y grŵp beicio cymdeithasol cynhwysol sydd wedi’i leoli ym Merthyr.

 

Soniodd Phil am hanes y grŵp a rhai o'r ffigurau allweddol a oedd wedi cynorthwyo’r broses o’i ddatblygu.  Mae’n canolbwyntio bellach ar annog pawb i feicio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r buddion amgylcheddol, corfforol ac iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â beicio.  Cafodd y grŵp grant gan Chwaraeon Cymru, a bu modd iddo gynnig teithiau yn rhad ac am ddim ar ei fflyd o feiciau a threiciau.  Mae darparu beiciau y gellid eu hurio yn rhad ac am ddim i bobl nad ydynt yn berchen, nac yn gallu fforddio, eu beiciau eu hunain, wedi cynyddu cyrhaeddiad y grŵp.  Mae ganddo fynediad hefyd i lwybr beicio diogel mewn ysgol leol.  Disgrifiodd yr ystod amrywiol o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau'r grŵp, gan nodi sut mae’r grŵp yn eu helpu i oresgyn heriau personol.  Nod y grŵp yw darparu llawer o gyfleoedd beicio i bobl drwy drefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.  Mae hefyd yn ymgyrchu i ddileu rhwystrau ffisegol i feicio drwy gael gwared ar rwystrau ar lwybrau sy’n peri anawsterau penodol i feicwyr anabl.  Mae aelodau’r grŵp wedi llwyddo i berswadio cyngor Merthyr Tydfil i wneud newidiadau sylweddol i'r rhwystrau dan sylw.  Yn awr, maent yn gwneud cais am gyllid i ddarparu e-feiciau a datblygu rhagor o wybodaeth am lwybrau lleol.  Gwahoddodd Phil unrhyw un sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth i gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at contact@activewheels.wales.  Yn ystod y sesiwn sylwadau a chwestiynau, cafodd gwaith y grŵp, ynghyd ag ymroddiad y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan, ganmoliaeth fawr.  Awgrymwyd y dylid ystyried y grŵp yng nghyd-destun presgripsiynu cymdeithasol.

 

Diolchwyd i Phil am ei gyflwyniad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.30.

Yn bresennol

 

                                                                                Yn bresennol yn y cnawd

Enw cyntaf

Cyfenw

Teitl y swydd

Sefydliad 

Ken

Barker

 

Cycling UK

Rebecca

Brough

Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth

Cerddwyr Cymru

Nancy

Cavill

Uwch Swyddog Polisi

Grŵp y Blaid Lafur yn y Senedd

Dan

Coast

Ysgrifennydd

Beicio Casnewydd

Stephen

Cunnah

Rheolwr Polisi a Materion Allanol

Sustrans Cymru

Elliot

Davies

Rheolwr cyfrif

Lynn Group

Sian

Donovan

Cyfarwyddwr

Pedal Power

Richard

Evans

Cadeirydd

Gweithdy Beiciau Caerdydd

Natalie

Grohmann

Trafnidiaeth – Swyddog Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau

Llywodraeth Cymru

Huw

Irranca-Davies

Aelod o’r Senedd

Senedd Cymru

Meryl

James

Staff Cymorth Aelod o’r Senedd

Julie Morgan AS

Gwyn

Lewis

Teithio Llesol

Llywodraeth Cymru

Shayoni

Lynn

Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd

Lynn Global

Hugh

Mackay

 

Cycling UK, Bro Morgannwg

Gwenda

Owen

Swyddog Ymgysylltu – Cymru

Cycling UK

Gareth

Price

Clerc

Senedd Cymru

Chris

Roberts

Ysgrifennydd

Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol

Kaarina

Ruta

Cynorthwy-ydd Trafnidiaeth

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

John

Sayce

Cadeirydd

Wheelrights

Phil

Snaith

Ysgrifennydd

Fforwm Beicio Sir Gaerfyrddin

Tom

Wharf

Pennaeth Dylunio

Trafnidiaeth Cymru

Liz

Williams

Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

RNIB (Cymru)

Yn bresennol drwy Teams

Enw cyntaf

Cyfenw

Teitl y swydd

Sefydliad 

Jackie

Aplin

Aelod o Staff Cymorth Joyce Watson

Joyce Watson AS

Ioan

Bellin

SCA

Rhys ab Owen AS

John

Bradley

Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus y GIG

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Richard

Brunstrom

 

Cycling UK, Gogledd Cymru

Joseph

Carter

Pennaeth y Gwledydd Datganoledig

British Lung Foundation 

Patricia

Denning

Gweithiwr Achos

Heledd Fychan

Duncan

Dollimore

Pennaeth Eiriolaeth ac Ymgyrchoedd

Cycling UK

Helen

Donnan

Swyddog Maes Mynediad, Cymru

Cymdeithas Ceffylau Prydain

Ryland

Doyle

Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwil

Mike Hedges AS

Donna

Edwards-John

Swyddog Teithio Llesol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Gemma

Hobson

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Keith

Jones

Cyfarwyddwr

ICE Wales Cymru

Phil

Lewis

Cadeirydd

Active Wheels

Richard

Lewis

Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus

 Iechyd Cyhoeddus Cymru (Gwent)

Hilary

Mai

 

ValeVeloWays

Chris

Perry

Cyfarwyddwr

Lynn Group

Paul

Pilkington

Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Louis

Preece

Swyddog Prosiectau Teithio Llesol

Cyngor Dinas Casnewydd

Gemma

Roberts

Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

Sefydliad Prydeinig y Galon

Alan

Tapp

Athro Marchnata Cymdeithasol

Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE)

Greg

Tasker

Rheolwr Teithio Llesol

Cyngor Dinas Casnewydd

Tom

Wells

 

Teithio Llesol Gorllewin Cymru

Christopher

White

Darlithydd ym maes Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles

Prifysgol Wrecsam

Patrick

Williams

Rheolwr y Rhaglen Genedlaethol, y Gronfa Teithio Llesol

Sustrans Cymru

 

 

Ymddiheuriadau:

Heledd Fychan AS, Senedd Cymru

Matthew Gilbert, Arweinydd Teithio Llesol, Trafnidiaeth Cymru

Max Hampton, Cynghorydd Dylunio, Comisiwn Dylunio Cymru

Delyth Jewell AS, Senedd Cymru

David Naylor, Wheelrights Abertawe

Peredur Owen Griffiths AS, Senedd Cymru

Paul Streets, Ysgrifennydd, Dinas Feicio Caerdydd